Lleoliad:
Dyddiad: Dydd Llun, 21 Tachwedd 2022
Amser:
14.00 -
14.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13042
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Luke Fletcher AS Joel James AS Rhianon Passmore AS (yn lle Buffy Williams AS) |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth Buffy Williams AS a Rhys ab Owen AS.
Roedd Rhiannon Passmore AS yn dirprwyo ar ran Buffy Williams AS.
2 Deisebau newydd
2.1 P-06-1287 Rhaid ymchwilio i benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gau'r feddygfa yng ngogledd Penarth a symud cleifion i feddygon teulu sydd ymhell i ffwrdd
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
2.2 P-06-1297 Dod â "llosgi dan reolaeth" i ben yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar i ofyn am eu barn ynghylch a oes angen caniatáu rhywfaint o amser ar gyfer llosgi o dan reolaeth, ac a yw'r amser a nodwyd ar gyfer gwneud hynny yn briodol.
2.3 P-06-1304 Adolygu'r polisi tai dros dro mewn argyfwng sy'n effeithio ar ein cymunedau
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar Asedau Cymunedol, ac i dynnu sylw at y ddeiseb yn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn y disgwylir iddi gael ei chynnal yn gynnar yn 2023.
3.2 P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a llongyfarchodd y deisebydd Leanne Bartley, teulu Mark a phawb sydd wedi ymgyrchu’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth a gwella diogelwch dŵr. Diolchodd y Cadeirydd i'r rhai a gyfrannodd at yr ymchwiliad i helpu i atal pobl eraill rhag profi colled drasig o'r fath.
Cydnabu’r Pwyllgor y cyd-destun ehangach a’r gwaith sy’n digwydd o ran gweithgareddau antur, a chroesawodd y Cadeirydd y gwahoddiad i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r Grŵp Trawsbleidiol ar y sector Gweithgareddau Awyr Agored yng Nghymru yn y dyfodol.
Cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Rhagfyr a bydd y Pwyllgor yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb ar ôl hyn.
3.3 P-06-1240 Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag epilepsi sy'n byw yng Nghymru
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a chytunodd i drafod y ddeiseb eto pan ddaw ymateb gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y mudiad Epilepsy Action Cymru.
3.4 P-06-1235 Dylid sicrhau darpariaeth briodol o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i'r ymennydd
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i gyfleu sylwadau'r deisebydd, gan gynnwys y cais am gydweithio parhaus i wella gwasanaethau yn y dyfodol ar gyfer cleifion sydd wedi cael niwed i’r ymennydd.
Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebwyr am amlygu’r mater pwysig hwn.
3.5 P-06-1273 Lleihau amseroedd aros am ambiwlansys ac mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ddirfawr
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac oherwydd yr ymchwiliad manwl a'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion mewn egwyddor, cytunodd yr Aelodau fod llawer o'r materion a godwyd yn y ddeiseb a'r sylwadau dilynol wedi'u nodi a chael sylw. Felly cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd am godi’r mater pwysig hwn.
Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw'r deisebydd at ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
Derbyniwyd y cynnig.
5 Deiseb y Flwyddyn
Trafododd y Pwyllgor y gwaith a wnaed yn ddiweddar ar Ddeiseb y flwyddyn.
6 Papur cwmpasu ar waith y dyfodol
Bu'r Pwyllgor yn ystyried papur cwmpasu ar waith y gallai'r Pwyllgor ei wneud yn y dyfodol.